YMGYSYLLTU RHYNGWLADOL GWEINIDOGOL

 

TACHWEDD 2024

 

 

YMWELIADAU Â CHYMRU

 

7 Tachwedd

 

 

 

 

 

12 Tachwedd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ymweliad â Chymru gan Uchel Gomisiynydd India

Ymwelodd Uchel Gomisiynydd India â Chymru i gymryd rhan yn nathliadau Diwali yn Abertawe a Chaerdydd. Yn ystod yr ymweliad cyfarfu'r Uchel Gomisiynydd â'r Prif Weinidog i drafod Blwyddyn Cymru yn India, twf mewn masnach, ein sector iechyd a gofal, addysg a rhaglen Taith.

 

Ymweliad â Chymru gan Lywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw

Ymwelodd Llywydd Llydaw â Chymru i ddathlu 20 mlynedd ers llunio'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymru a Llydaw. Cynhaliodd y Prif Weinidog a'r Llywydd sgyrsiau dwyochrog a thrafod y Fforwm Celtaidd, Cydweithredu Porthladdoedd, Cydweithredu Seiber a'r Gymraeg. Cyd-gynhaliodd y Dirprwy Brif Weinidog dderbyniad gyda'r Llywydd yng Nghastell Caerdydd i ddathlu'r berthynas.

 

YMWELIADAU CYMRU Â GWLEDYDD ERAILL

 

10 Tachwedd

 

 

 

 

 

 

 

21 Tachwedd

 

 

 

 

 

 

 

Ymweliad â'r Almaen gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi â Dusseldorf ar gyfer ffair fasnach Medica, gyda Chwmnïau o Gymru. Cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet dderbyniad rhwydweithio ar gyfer cwmnïau yn Stondin Cymru, a chynhaliodd ginio rhwydweithio ar gyfer cynrychiolwyr gwladwriaeth o Ogledd Rhein-Westphalia. Roedd yr ymweliad hefyd yn cynnwys cyfarfod gyda Chonswl Cyffredinol Prydain a WEPA, cwmni buddsoddi o'r Almaen.

 

 

Digwyddiad y Corfflu Diplomyddol yn Llundain gan y Prif Weinidog

Teithiodd y Prif Weinidog i Lundain i gynnal derbyniad gyda'r Corfflu Diplomyddol yn Llundain. Rhoddodd y derbyniad gyfle i'r Prif Weinidog amlinellu meysydd sydd â blaenoriaeth i Gymru a phwysleisio'r rôl y bydd ymgysylltu rhyngwladol yn ei chwarae wrth eu cyflawni. Pan oedd yn Llundain, cynhaliodd y Prif Weinidog gyfarfodydd dwyochrog ar wahân hefyd gyda Llysgennad Japan, Uchel Gomisiynydd Canada ac Uchel Gomisiynydd Awstralia.